En primera persona: Tegau Andrews

Tegau Andrews

"Mae ymwybyddiaeth o waith termau yn rhyngwladol yn bwysig i ni ym Mhrifysgol Bangor ers i ni ddechrau safoni termau ar gyfer ysgolion nôl ym 1993. Pan oedden ni megis dechrau, roedd gyda ni lawer i’w ddysgu, a gan fod Catalwnia’n ddwyieithog fel Cymru, a bod TERMCAT ar sail gadarn erbyn hynny, fe wnaethom feddwl y byddai ein cyfeillion yng Nghatalwnia mewn sefyllfa dda i roi help a chyngor i ni.

Aeth fy nghydweithwyr i ymweld â TERMCAT yn 1995 a 1997 a dysgu llawer, gan gynnwys pwysigrwydd cyfathrebu â’r cyhoedd. Arweiniodd hyn at sefydlu rhestr e-bostio Welsh-Termau-Cymraeg ym 1998, lle\'r oedd aelodau o’r cyhoedd, gan gynnwys cyfieithwyr ac ieithwyr, yn gallu trafod termau â’i gilydd. Mae’r rhestr honno yn dal yn fywiog iawn heddiw.

Drwy rwydweithio â TERMCAT, EAFT a grwpiau terminoleg eraill rydym wedi cyrraedd ein safle presennol. Trwy gynhadledd EAFT yn 1999, daethom yn rhan o’r gymuned derminoleg ryngwladol. Yn hwyrach, fe greon ni Maes-T, ein llwyfan datblygu termau mewnol ein hunain, ar ôl ymweld â chyfeillion mewn gwledydd eraill a gweld y math o adnoddau oedd ganddyn nhw. Oddi ar y llwyfan hon rydym yn cyhoeddi ein holl eiriaduron terminolegol ar gyfer Porth Termau Cenedlaethol Cymru,  ar gyfer yr Ap Geiriaduron, ac ar gyfer gwefannau cleientiaid megis Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Erbyn hyn, i ni, y prif fudd o rwydweithio â chanolfannau terminoleg eraill fel TERMCAT yw ei fod yn ein helpu i ddilyn y datblygiadau diweddaraf mewn terminoleg y tu allan i Gymru.

O’m rhan fy hun, dechreuais gydweithio â TERMCAT yn 2016 pan es i’n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr EAFT (gan fod TERMCAT yn ysgrifenyddiaeth i EAFT). Mae’n brofiad cadarnhaol iawn i fi, gan fy mod wedi canfod bod fy nghysylltiadau yn TERMCAT yn ddibynadwy, yn drefnus ac yn hynod o gymwys." 

 

------------ 

 

"El seguiment de l’activitat terminològica a escala internacional ha estat important per a nosaltres, a la Universitat de Bangor, des que vam començar a estandarditzar terminologia per a escoles d’ensenyament mitjà de Gal·les el 1993. Quan vam començar, n’havíem d’aprendre molt, i com que Catalunya és bilingüe com Gal·les, i el TERMCAT estava ben establert en aquell moment, vam pensar que els nostres col·legues catalans podrien oferir-nos ajut i assessorament.

Alguns col·legues meus van visitar TERMCAT els anys 1995 i el 1997, i van aprendre molt, incloent-hi la importància de comunicar-se amb el públic. Això ens va dur a establir una llista de correus electrònics el 1998, anomenada Welsh-Termau-Cymraeg, en què les persones interessades, inclosos traductors i lingüistes, podrien discutir termes entre ells. Aquesta llista encara és ben activa actualment.

La connexió amb el TERMCAT, l’Associació Europea de Terminologia (AET) i altres organismes terminològics també ens va ajudar a arribar on som avui. A través d'una conferència de l’AET de 1999, ens vam implicar amb la comunitat internacional que treballa en terminologia. Més endavant també vam crear la nostra pròpia plataforma de desenvolupament de terminologia interna, Maes T, com a resultat del que havíem vist en altres països i d’observar quina mena de recursos feien servir. A partir d'aquesta plataforma publiquem tots els nostres diccionaris terminològics al Portal Nacional de Terminologia de Gal·les, a l’aplicació de diccionaris Ap Geiriaduron, i a pàgines web com ara Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Actualment, per a nosaltres el principal benefici de treballar en xarxa amb centres terminològics com el TERMCAT és que ens ajuda a estar al cas dels desenvolupaments de terminologia fora de Gal·les.

Vaig començar a col laborar amb el TERMCAT el 2016, quan vaig entrar a formar part de l’equip directiu de l’AET (el TERMCAT s’encarrega de la secretaria d’aquesta associació). Ha estat una experiència molt positiva per a mi, ja que he trobat que la meva connexió amb el TERMCAT és fiable, organitzada i molt competent."

 

Tegau Andrews
Terminòloga de la Unitat de Tecnologies del Llenguatge Universitat de Bangor